Sylwadau
Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan
Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd
(Ymadael) 2018, a pharagraffau 1 a 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b)
o Atodlen 7 i'r Ddeddf.
Gwneir yr offeryn hwn gan ddefnyddio pwerau yn Neddf
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 ("y Ddeddf Ymadael") er mwyn
mynd i'r afael â diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir
mewn perthynas â chemegau a deddfwriaeth organeddau a
addaswyd yn enetig (GMO) sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig
(DU) â'r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae'r offeryn hwn yn sicrhau
y bydd rheoliadau cemegau a GMO y DU yn parhau i weithredu'n
effeithiol o'r diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE
("Ymadael"). Nid yw'r offeryn hwn yn gwneud unrhyw newidiadau
polisi y tu hwnt i'r bwriad o sicrhau gweithredoldeb parhaus y
ddeddfwriaeth berthnasol.
Fel Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gymwys yn
uniongyrchol, heb angen i'w trosi i gyfraith y DU, caiff y
Rheoliadau BPR, CLP a PIC eu dargadw o dan y trefniadau a gynigir
yn Adran 3(1) o'r Ddeddf Ymadael. Mae'r offeryn yn gwneud
cywiriadau i'r Rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r pwerau yn y Ddeddf
Ymadael.
Oherwydd diwygiadau i'r Rheoliadau CLP a wneir yn yr
offeryn hwn, mae diwygiadau i'w gwneud i ddeddfwriaeth islaw, h.y.
deddfwriaeth sydd 'islaw' y Rheoliad CLP, ond sy'n dibynnu ar
ddosbarthiad perygl, yn llwyr neu'n rhannol, i ddiffinio'r cwmpas a
fwriadwyd ac i weithredu fel 'sbardun' ar gyfer mesurau rheoli risg
ychwanegol. Mae hyn i sicrhau bod y ddeddfwriaeth islaw yn parhau i
ddarparu'r cyfeiriadau priodol ac angenrheidiol at y Rheoliadau CLP
a (lle bo angen) at restr dosbarthu a labelu gorfodol y DU y mae'r
Rheoliadau CLP diwygiedig yn darparu ar eu cyfer.
Mae'r offeryn hwn hefyd yn diwygio rheoliadau
perthnasol i fynd i'r afael â diffygion sy'n deillio o
ymadawiad y DU â'r UE i ganiatáu i'r Awdurdod
Gweithredol Iechyd a Diogelwch orfodi darpariaethau ac i adennill
costau ar gyfer ei waith.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn gwneud y sylwadau a
ganlyn mewn perthynas â datganiad Llywodraeth Cymru dyddiedig
24 Ionawr 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn:
·
Mae'r datganiad yn cyfeirio at yr is-ddeddfwriaeth a
ganlyn ar gyfer ei chywiro: Rheoliadau Cynhyrchion a Chemegau
Bioleiddiadol (Pennu Awdurdodau a Gorfodaeth) (Gogledd Iwerddon)
2013; Rheoliadau Ffrwydron (Pennu Awdurdodau a Gorfodaeth) (Gogledd
Iwerddon) 2015; Rheoliadau Cynhyrchion Bioleiddiadol (Ffioedd a
Thaliadau) (Gogledd Iwerddon) 2015; a Rheoliadau Organeddau a
Addaswyd yn Enetig (Defnydd Cyfyngedig) (Gogledd Iwerddon) 2015.
Fodd bynnag, mae paragraff 4.2 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi
bod yr offerynnau hyn “…apply to Northern Ireland
only…”.
Mae’r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm
Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu
heffaith.
Nid yw'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn ystyried bod
unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r
Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu
Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau
hyn.
|